Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

CYP(4)03-12

 

Tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’r broses o weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

 

Tystiolaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

Cyflwyniad

 

Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn sicrhau bod dysgwyr, waeth ble maent yn astudio neu beth yw eu dewis o iaith (h.y. Cymraeg neu Saesneg), yn cael mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys ac i wasanaethau cymorth dysgu a fydd yn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i'w dysgu a chyflawni eu potensial.   

 

Mae’r arian grant 14-19 a ddarperir gan Lywodraeth Cymru’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o weithredu'r Llwybrau Dysgu 14-19 yn llwyddiannus ac wrth gynorthwyo awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau addysg bellach i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Mesur.  Er hynny, mae’n bwysig gosod yr arian grant galluogol hwn yng nghyd-destun y cyllid cyffredinol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi addysg ieuenctid 14-19 oed, drwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw (GCR) i ieuenctid 14-16 oed a’r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol ar gyfer dysgwyr ôl-16.   

 

Er ein bod yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor i weithredu’r Mesur a’r cyfle i ddarparu tystiolaeth i’r Pwyllgor, rydym yn rhannu’r pryderon a fynegir gan nifer o gyfranwyr eraill am ei amseriad. O ystyried na fydd y Mesur yn cael ei weithredu'n llawn tan fis Medi eleni, rydym ni hefyd yn credu ei bod yn rhy gynnar i asesu ei effaith yn llawn a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

 

Gweithredu

 

Bydd y Pwyllgor yn ymwybodol bod gofynion cwricwlwm lleol y Mesur wedi cael eu gweithredu dros gyfnod o bedair blynedd, gyda’r flwyddyn gyntaf, 2009-10, yn cael ei gweithredu ar sail anstatudol.  Mae’r dystiolaeth sydd eisoes ar gael yn dynodi bod y polisi Llwybrau Dysgu 14-19 a’r Mesur wedi gwneud gwahaniaeth mawr i amrywiaeth y pynciau a gynigir i bobl ifanc ac i’r cymorth maent yn ei dderbyn er mwyn eu helpu i oresgyn unrhyw rwystrau i’w dysgu a chyflawni eu potensial.

 

Mae lefelau presenoldeb wedi gwella ac mae nifer yr eithriadau wedi gostwng; mae canlyniadau addysgol wedi gwella ac mae nifer y bobl ifanc sy’n datblygu i fod yn rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi gostwng.  Mae mwy o bobl ifanc yn dewis aros mewn addysg neu hyfforddiant y tu hwnt i’r oedran dysgu gorfodol. Ceir mwy o gydweithio hefyd rhwng ysgolion a cholegau, gyda thwf cyfatebol yn nifer y cyrsiau sy’n cael eu cynnal ar y cyd.

 

Rydym yn falch bod yr ymrwymiad i Lwybrau Dysgu 14-19 a ddangoswyd gan randdeiliaid wedi sicrhau nad yw nifer o’r pryderon a gafodd eu mynegi wrth basio’r Mesur wedi dod i’r amlwg. Hefyd, rydym yn falch bod gofynion y Mesur yn cael eu bodloni ledled Cymru, yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16, boed drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ddwyieithog neu ddarpariaeth cyfrwng Saesneg. Mae’r arian grant y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu ar gyfer Llwybrau Dysgu 14-19 wedi bod o gymorth gyda hyn ac, er mwyn cynnig sefydlogrwydd, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau parhad yr arian grant ar gyfer blynyddoedd ariannol 2012-13 a 2013-14. 

 

1. Pa effaith mae’r broses o weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi’i chael hyd yn hyn ar bobl ifanc 14-19 oed?

 

Mae’r Mesur wedi cyflwyno dewis ehangach i ddysgwyr yn CA4 ac ôl-16, mewn cyrsiau cyffredinol a galwedigaethol. Ym mis Medi 2011, roedd pob ysgol a choleg addysg bellach yn bodloni gofynion sylfaenol lleol y cwricwlwm ar gyfer 28 dewis o gyrsiau, gan gynnwys pob darparwr cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

 

Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae mwy na 97% o’r holl ysgolion yng Nghymru eisoes yn bodloni gofynion llawn mis Medi 2012 ar gyfer isafswm o 30 dewis o gyrsiau, gan gynnwys isafswm o bum opsiwn galwedigaethol. Mae rhwydweithiau wedi rhoi’r trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn bodloni’r gofynion llawn ar gyfer mis Medi 2012. O ran y ddarpariaeth ôl-16, mae pob ysgol a choleg addysg bellach eisoes yn bodloni’r gofynion llawn o 30 dewis o gyrsiau, gan gynnwys isafswm o bum opsiwn galwedigaethol.

 

Cynigiwyd cyfartaledd o 35 cwrs yng Nghyfnod Allweddol 4 ym mis Medi 2011. Cynhaliwyd 32 o gyrsiau ar gyfartaledd yn 2011, sy’n dangos yn glir bod y cynnig yn ddidwyll a bod y dysgwyr yn cael cyfleoedd i ddilyn ystod eang o gyrsiau sy’n ddiddorol ac yn heriol iddynt. Cynigiwyd cyfartaledd o 24 ym mis Medi 2008 ond roedd 40 o ysgolion yn cynnig 20 cwrs neu lai.

 

Y cyfartaledd a gynigiwyd yn 2011 i fyfyrwyr ôl 16 oedd 40.

 

Mae’r polisi o ddewis ehangach wedi cyfrannu at welliannau yng nghyrhaeddiad, presenoldeb ac ymddygiad y dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4, fel y dangosir yn Adroddiad Blynyddol Estyn 2009-10.

 

Er hynny, mae ehangu’r dewis hefyd wedi gosod ffocws ar y pynciau sy’n cael eu cynnig a pha un ai ydynt yn rhai sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr ac addysg uwch yn galw amdanynt. Bydd yr adolygiad o’r Cymwysterau 14-19, a gadeirir gan Huw Evans, yn helpu i sicrhau bod y cymwysterau sy’n cael eu cynnig yn rhai sy’n cael eu hystyried fel rhai perthnasol ac yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr a phrifysgolion.

 

2. A yw disgyblion Cymraeg yn cael dewis sy’n cynnig yr un dyfnder ac amrywiaeth?

 

Bu cynnydd yn nifer y cyrsiau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhai academaidd a galwedigaethol, gyda'r holl ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn cael cynnig yr isafswm o gyrsiau sy’n ofynnol o dan y Mesur.  Er bod nifer y cyrsiau galwedigaethol Cymraeg sydd ar gael ychydig yn is na’r rhai sydd ar gael yn Saesneg, rydym ni, drwy glustnodi elfen o’r arian grant 14-19, wedi sicrhau bod ehangu sylweddol wedi digwydd o ran nifer y cyrsiau galwedigaethol a gynigir; er 2008, mae rhyw £4.2m wedi cael ei glustnodi ar gyfer y diben hwn.

 

Mae sefydlu tri fforwm 14-19 rhanbarthol cyfrwng Cymraeg, gyda chymorth arian grant 14-19, wedi chwarae rhan bwysig mewn cydlynu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a sicrhau cysondeb ieithyddol mewn cyrsiau galwedigaethol ar Lefel 3, ar gyfer dysgwyr ôl-16. Yn 2010-11, cefnogodd y fforymau ddatblygiad 12 cwrs cydweithredol newydd; 10 ar Lefel 3. Yn 2011-12, mae cyfanswm o 20 o gyrsiau cydweithredol ar gael, yn rhai galwedigaethol a chyffredinol, gydag 17 ar Lefel 3; o blith yr 20 cwrs yma, mae 14 yn gyrsiau newydd, gyda 13 o'r rhain ar Lefel 3.

 

3. Os yw’r Mesur wedi arwain at ddewis ehangach o gyrsiau academaidd a galwedigaethol, a yw hyn wedi cael unrhyw effaith anfwriadol ar bynciau eraill, er enghraifft ieithoedd modern?

 

Mae’r Mesur yn galw am ddatblygu Cwricwla Lleol sy’n diwallu anghenion, diddordebau a dyheadau’r dysgwyr, yn ogystal â gofynion y farchnad lafur leol.

 

Drwy gyfrwng dewis ehangach a chydweithrediad, rydym ni wedi gweld nifer o gyrsiau’n cael eu diogelu. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, mae cydweithrediad rhwng dwy ysgol wedi sicrhau ei bod yn bosibl cynnal cwrs Almaeneg TGAU Safon Uwch na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall; a cheir cynlluniau i gynnig Ffrangeg Safon Uwch drwy drefniant tebyg yn 2012. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cydweithio rhwng ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyrsiau mewn partneriaeth a thrwy hynny ddiogelu pynciau na fyddent ar gael fel arall.  

 

Mewn perthynas ag ieithoedd tramor modern, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda CILT Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd, er mwyn hybu dysgu Ieithoedd Tramor Modern (ITM) ledled Cymru. Mae wedi datblygu cynllun gweithredu sy’n datgan sut bydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid a CILT er mwyn datblygu a hybu dysgu ieithoedd tramor modern. Bydd yr Adolygiad o’r Cymwysterau hefyd yn cynnwys asesiad o’r sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r ddarpariaeth ITM.

 

4. A yw’r broses o weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi cael unrhyw effaith ar nifer y bobl ifanc 16 oed sy’n dewis aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ddiwedd eu haddysg orfodol?

 

Mae’r Pwyllgor eisoes wedi derbyn tystiolaeth bod nifer y bobl ifanc sy’n aros mewn addysg ôl-16 wedi cynyddu a bod nifer y bobl ifanc sy’n cael eu categoreiddio fel pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant wedi gostwng. 

 

Dengys gwybodaeth gan Gyrfa Cymru bod nifer y bobl ifanc sy’n aros mewn addysg neu hyfforddiant llawn-amser, y tu hwnt i’r oedran dysgu gorfodol, wedi cynyddu fel a ganlyn:

2008 – 79.2%

2009 – 82.2%

2010 – 82.8%

Drwy gynnig i bobl ifanc 16 oed gyrsiau sy’n cael eu hystyried fel rhai perthnasol a diddorol ganddynt, bydd mwy yn dewis dal ati mewn addysg neu hyfforddiant y tu hwnt i’r oedran dysgu gorfodol. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu yn erbyn codi’r oedran dysgu gorfodol.

 

5. Pa broblemau ymarferol sy’n cael sylw er mwyn gweithredu’r Mesur?

 

Mae datblygu partneriaethau lleol effeithiol yn allweddol i sicrhau bod gofynion y Mesur yn cael eu bodloni a bod polisi’r Llwybrau Dysgu 14-19 yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.  Mae cydweithio effeithiol a chynllunio da wedi helpu gyda mynd i’r afael â’r materion niferus a godwyd.

 

Rydym ni’n cydnabod mai proses esblygol yw hon, yn hytrach nag un chwyldroadol, a bod rhaid i’r partneriaethau a’r trefniadau ar gyfer cydweithio gael amser i aeddfedu.  Mae cydweithio wedi helpu nid yn unig gyda sicrhau dewis ehangach ond hefyd gyda gwneud gwell defnydd o’r adnoddau sydd ar gael. Ceir enghreifftiau da o bartneriaethau a chydweithio effeithiol ar hyd a lled Cymru. Un enghraifft benodol yw Sir Gaerfyrddin, lle mae Coleg Sir Gâr a’r ysgolion uwchradd lleol yn Llanelli wedi sicrhau cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Beacon 2010 Cymdeithas y Colegau, am weithio ar y cyd. 

 

Hefyd mae gennym ni enghreifftiau o sut mae darpariaeth gydweithredol wedi arbed cyllid sylweddol i ysgolion. Er enghraifft, mae Partneriaeth Bryn Tawe – Gŵyr yn Abertawe wedi arbed tua £83,000 i bob ysgol drwy ddarparu 20 cwrs ar y cyd. Mae’r arbedion hyn yn ystyried y costau teithio ychwanegol cysylltiedig â’r ddarpariaeth ar y cyd.

 

Er hynny, rydym yn cydnabod y gall cydweithio o’r fath fod yn anos mewn ardaloedd gwledig a/neu gyda rhai darparwyr cyfrwng Cymraeg, lle mae’r pellter rhwng lleoliadau yn gallu gwneud cydweithio’n anos. Mae amgylchiadau o’r fath yn galw am atebion blaengar. Gellir defnyddio amserlennu cyffredin a chael y dysgwyr i deithio ar ddechrau neu ddiwedd y diwrnod ysgol. Hefyd, mae TGCh a chynadleddau fideo’n cael eu defnyddio’n effeithiol gan rai partneriaethau er mwyn cyflwyno cyrsiau ar y cyd ac mae hyn yn arbed amser teithio ac adnoddau.

 

Mae’n bwysig bod pob darparwr yn gweithredu er budd gorau eu dysgwyr, ac nid y sefydliad.  Er bod rhai darparwyr yn amharod i gydweithio, mae cynnydd yn cael ei wneud ac rydym ni’n symud i’r cyfeiriad iawn.

 

Ceir hefyd dystiolaeth anecdotaidd o’r manteision ychwanegol a gynigir i les y dysgwyr wrth astudio mewn sefydliad arall, o ran cael profiad o leoliad arall a chyfarfod cyfoedion newydd. Byddwn yn edrych ar gasglu rhagor o dystiolaeth am hyn yn y dyfodol.

 


6. A yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn cael ei weithredu’n gyson ledled pob awdurdod lleol?

 

Fel y nodwyd yn gynharach, roedd y darparwyr i gyd ym mhob awdurdod lleol yn bodloni gofynion statudol 2011 o dan y Mesur ac rydym yn hyderus y bydd yr holl ysgolion a cholegau addysg bellach yn gallu bodloni gofynion statudol llawn 2012 hefyd.

 

7. A yw dysgwyr sy’n agored i niwed, yn enwedig y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gallu cael budd o ddarpariaethau’r Mesur?

 

Mae gan bob dysgwr mewn colegau addysg bellach ac ysgolion uwchradd a gynhelir, gan gynnwys y rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, yr un hawl i ddewis ehangach. Nid yw ysgolion arbennig yn rhan o gylch gwaith y Mesur mewn perthynas â dewis ehangach. Fodd bynnag, mae gan y dysgwyr sy’n gallu dilyn cyrsiau astudio mewn lleoliadau prif ffrwd ddewis ehangach eisoes drwy gyfrwng trefniadau cofrestru deuol. Bydd y dysgwyr hynny y mae eu hamgylchiadau arbennig yn golygu nad ydynt yn gallu dilyn cwrs astudio mewn lleoliad prif ffrwd eisoes yn derbyn addysg unigol wedi’i llunio’n arbennig i ddiwallu eu hanghenion dysgu unigol. Bydd Ysgolion Arbennig yn rhan o gylch gwaith y Mesur mewn perthynas â gwasanaethau cymorth i ddysgwyr.

 

Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cynllunio’r cwricwlwm lleol ystyried a chynnwys darpariaeth addas ar gyfer y dysgwyr hynny y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu’n well efallai gan gyrsiau ar lefel is neu uwch. Yng Nghyfnod Allweddol 4, mae hyn yn golygu ystyried anghenion y rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwneud yn siŵr bod y dysgwyr nad ydynt yn gallu dilyn cyrsiau Lefel 2 oherwydd eu ADY yn cael cyfleoedd i ddilyn ystod o gyrsiau sy’n galluogi iddynt wneud cynnydd da tuag at gymwysterau Lefel 2.

 

Yn yr un modd, mewn addysg ôl-16, dylai’r rhai sy'n cynllunio’r cwricwlwm lleol sicrhau bod y dysgwyr nad ydynt yn gallu dilyn cyrsiau Lefel 3 yn cael cyfleoedd i ddilyn dewis o gyrsiau sy’n eu galluogi i wneud cynnydd da ar y lefel briodol i’r dysgwr. Dylid sicrhau bod lefel briodol o gyrsiau is na Lefel 3 ar gael i ddiwallu anghenion y dysgwyr y mae'r rhaglenni hyn yn fwy addas iddynt. Mae’r rhain yn gyfrifoldebau addysgu cyffredinol sydd y tu allan i rychwant y Mesur.   

 

O dan adrannau 31 a 32 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (“y Ddeddf Dysgu a Sgiliau”) mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ddiogelu’r ddarpariaeth o gyfleusterau priodol ar gyfer addysg a hyfforddiant sy’n bodloni gofynion disgyblion 16-18 oed ynghyd â chyfleusterau rhesymol ar gyfer addysg a hyfforddiant sy’n bodloni gofynion myfyrwyr 19 oed a hŷn (addysg ôl-16). Wrth gyflawni’r dyletswyddau hynny mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried yr addysg a’r hyfforddiant sy’n ofynnol mewn gwahanol sectorau cyflogaeth ar gyfer cyflogeion.

 

O dan adrannau 34 a 35 o’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau gallai Gweinidogion Cymru ddarparu adnoddau ariannol i ddarparwyr addysg neu hyfforddiant ôl-16 a gallent orfodi amodau ynghylch cyllid o’r fath. Mae ‘addysg a hyfforddiant ôl-16’ yn cynnwys addysg amser llawn ac addysg rhan-amser (ac eithrio addysg uwch) a hyfforddiant galwedigaethol. O dan adran 41 o’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ystyried anghenion personau ag anawsterau dysgu wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag adrannau 31, 32 a 34.

 

Fel y dynodir uchod, er nad yw gofynion cwricwlwm ehangach y Mesur yn berthnasol i ysgolion arbennig, mae’r elfennau cymorth dysgu yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y dylai’r dysgwyr i gyd gael gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd a fydd yn eu helpu i wneud dewisiadau doeth a realistig, goresgyn rhwystrau dysgu a gwireddu eu potensial unigol. Ceir enghreifftiau o arferion da wrth gyflwyno gwasanaethau cymorth dysgu mewn ysgolion arbennig, gan gynnwys Ysgol Trinity Fields yng Nghaerffili, y tynnwyd sylw ati yn nhystiolaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i’r Pwyllgor.

 


8. A yw'r cymorth dysgu'n cael ei gyflawni'n effeithiol?

 

Mae’r cymorth i ddysgwyr yn cynnwys gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol, cefnogaeth bersonol a hyfforddiant dysgu, a chyflwynwyd yr olaf o'r rhain yn uniongyrchol drwy gyfrwng y Llwybrau Dysgu 14-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd yn datgan ein disgwyliadau mewn perthynas ag awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau. Nid oes unrhyw fodel cyflwyno wedi'i ragnodi ar gyfer gwasanaethau cymorth dysgu ac mae ystod o wahanol fodelau cyflwyno wedi cael eu datblygu ar hyd a lled Cymru. Y peth pwysig yw bod y cymorth dysgu a ddarperir yn gysylltiedig ag anghenion y dysgwyr. Bydd hyn yn golygu na fydd rhai dysgwyr angen fawr ddim cefnogaeth i gyflawni eu potensial ond efallai bydd eraill angen cefnogaeth un i un fwy dwys dros gyfnod o amser.

 

Er bod gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol, a chefnogaeth bersonol, yn wasanaethau sydd wedi’u sefydlu ers amser maith, mae swyddogaeth yr hyfforddwr dysgu yn un gymharol newydd ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddi genedlaethol ar Lefel 4.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai’r gymhareb addas ar gyfer hyfforddwr dysgu yw 1:80 ac rydym yn falch bod pob ysgol a choleg addysg bellach wedi dynodi y byddant wedi sicrhau'r gymhareb hon erbyn mis Mawrth 2012.

 

Hefyd, mae’r cytundebau dysgu yn y gwaith newydd, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2011, yn sicrhau bod cymorth dysgu, gan gynnwys hyfforddiant dysgu, ar gael i bobl ifanc sy’n ymgymryd ag addysg yn y gwaith.

 

Yn fuan, byddwn yn gofyn i Estyn ymgymryd ag arolwg ar y gwasanaethau cymorth dysgu. 

 

9. Pa effaith y mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn ei chael ar golegau addysg bellach?

 

Mae gan golegau addysg bellach ran allweddol i’w chwarae mewn sicrhau bod y Llwybrau Dysgu 14-19 a’r Mesur yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus. Mae colegau ar hyd a lled Cymru’n cydweithredu ag ysgolion er mwyn cynnig darpariaeth alwedigaethol o safon uchel ar gyfer disgyblion CA4. Mae hyn yn golygu eu bod wedi gorfod addasu i allu derbyn ieuenctid 14 a 15 oed yn eu lleoliadau. Mae rhai darlithwyr coleg yn dysgu yn yr ysgolion eu hunain, sy’n golygu bod y dysgwyr yn cael arbed teithio. Rydym yn disgwyl gweld twf parhaus yn y cydweithio rhwng ysgolion a cholegau wrth i ni ymgorffori’r model gweithio rhanbarthol ar hyd a lled Cymru.

 

Er hynny, mae’n rhaid i ni ganolbwyntio mwy o'n hymdrechion ar sicrhau bod pobl ifanc yn cael dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-16. Rydym ni’n falch o allu dweud bod y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu ei hymrwymiad i’r cyfnod addysgu ôl-16, er mwyn galluogi i golegau addysg bellach yn arbennig ddatblygu llwybrau cynnydd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Roedd nifer yr Hyrwyddwyr Dwyieithog mewn colegau wedi cynyddu o bedwar i wyth ym mis Ebrill 2011 ac mae pedwar coleg newydd eisoes wedi dechrau gweithredu strategaethau, er mwyn creu sylfeini cadarnach ar gyfer y datblygiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr ôl-16.